Sblash Mawr yn dychwelyd i Gasnewydd dros yr haf!

Bydd yr ŵyl theatr stryd awyr agored boblogaidd i deuluoedd, Sblash Mawr, unwaith eto’n dychwelyd i strydoedd Casnewydd ym mis Gorffennaf i syfrdanu, difyrru a diddanu pobl leol ac ymwelwyr o’r cyffiniau! Yn un o’r gwyliau am ddim mwyaf o’i bath yng Nghymru, bydd y Sblash Mawr a drefnir gan Glan yr Afon yn meddiannu canol y ddinas o ddydd Sadwrn 20 tan dydd Sul 21 Gorffennaf 2019 ar gyfer penwythnos llawn digwyddiadau a pherfformiadau am ddim i deuluoedd a phlant mawr.

Gyda chymorth ariannol gan Casnewydd Fyw a Chyngor Celfyddydau Cymru yn ogystal â nawdd gan Friars Walk, Canolfan Ffordd y Brenin, Newport Now a Western Power Distribution, bydd y Sblash Mawr yn difyrru miloedd o bobl gyda theatr stryd a cherddoriaeth fyw yn ogystal â gweithgareddau i’r teulu cyfan, a’r cyfan am ddim.

Mae Ardal Gwella Busnes Newport Now yn noddi’r Sblash Mawr am y drydedd flwyddyn yn olynol gyda pharth yn Commercial Street a’r Stryd Fawr, gan sicrhau bod yr ŵyl yn cynnwys ardaloedd siopa traddodiadol  canol y ddinas.

Meddai Kevin Ward, rheolwr yr AGB, ‘Rydym wrth ein boddau o fod yn rhan o’r Sblash Mawr eto. Mae wedi dod yn un o’r prif ddigwyddiadau yng nghalendr canol y ddinas ac yn denu cwsmeriaid mawr eu hangen i’r Ardal Gwella Busnes i wylio’r perfformiadau stryd penigamp.’

Meddai Simon Pullen, Cyfarwyddwr Canolfan Friars Walk, ‘Rydym wrth ein boddau o fod yn rhan o’r Sblash Mawr unwaith eto – bydd Parth Friars Walk yn dychwelyd gyda theatr stryd fywiog a hwyl i’r teulu cyfan. Mae’n bleser mawr i fod yn rhan o ddigwyddiad mor arbennig sy’n ychwanegu egni rhyfeddol at ganol y ddinas.’

Bydd perfformiadau unwaith eto yn ymddangos mewn chwe pharth Sblash Mawr, gan droi canol y ddinas yn un llwyfan awyr agored fawr. Rhai uchafbwyntiau o’r ŵyl y llynedd oedd perfformiadau gan ffefrynnau Casnewydd, Mr a Mrs Clark, y perfformwyr theatr stryd Le Navet Bete, y band samba Barracwda a’r cwmni theatr Flossy and Boo. Mae’r fflachgriw cylchynnau hwla ‘Hoop Troop’, a gynhaliwyd ar ddydd Sadwrn yr ŵyl y llynedd ar y cyd â Western Power, ynghyd â The Sparklettes hefyd newydd eu henwebu ar gyfer Gwobr Celfyddydau a Busnes Cymru!

Disgwylir i Sblash Mawr 2019 fod yn fwy ac yn well nag erioed, gyda mwy o berfformwyr syrcas, comedi colbio, theatr stryd a pherfformiadau ar gerdded sy’n adloniant perffaith i deuluoedd! Y llynedd daeth mwy na 24,500 o ymwelwyr i’r ŵyl ac mae trefnwyr yr ŵyl yn hyderus y bydd rhaglen eleni yn denu, yn difyrru ac yn gwefreiddio hyd yn oed mwy o bobl yng nghanol Casnewydd.

 ‘Yng ngŵyl y Sblash Mawr y llynedd, meddiannwyd dinas Casnewydd am un penwythnos yn unig gan forfilod anferth, ungyrn ar feiciau un olwyn a changarŵs neidiol ymhlith rhyfeddodau eraill. Eleni gall pobl ddisgwyl i hyd yn oed mwy o gymeriadau anhygoel feddiannu strydoedd y ddinas, yn ogystal â rhai syrpeisys wrth gwrs!’ Olivia Harris, Cynhyrchydd Creadigol Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan-yr-Afon a’r Sblash Mawr.

Gallwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr ŵyl ar y cyfryngau cymdeithasol – Twitter @BigSplashFest a Facebook,  facebook.com/bigsplashnewport – lle caiff y perfformwyr cyntaf eu cyhoeddi yn fuan iawn!

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s