Roedd Theatr a Chanolfan Celfyddydau Glan yr Afon wrth ei bodd o ddysgu yr wythnos diwethaf ei bod wedi cael ei henwebu ar gyfer Gwobr Celfyddydau, Busnes a Hunaniaeth Brand a noddir gan Hern & Crabtree yng Ngwobrau Celfyddydau a Busnes Cymru 2019. Mae’r Gwobrau hyn, sydd wedi cael eu cynnal am dros chwarter canrif, yn annog, yn cydnabod ac yn dathlu partneriaethau rhagorol rhwng y sector preifat a’r celfyddydau.
Cafodd Theatr Glan yr Afon ei henwebu yn sgil ei phartneriaeth â Western Power Distribution (WPD) ar gyfer Gŵyl y Sblash Fawr, sef gŵyl theatr stryd a chelfyddydau awyr agored am ddim boblogaidd iawn Casnewydd, a ddenodd tua 24,000 o bobl i’r ddinas yn 2018. Creodd y bartneriaeth ‘Hoop Troupe’ a roddodd gyfle i bobl hŷn ddod ynghyd i gymdeithasu, cael hwyl a dysgu sgiliau newydd drwy amrywiaeth o weithdai a gafodd eu cynnal yn Theatr Glan yr Afon cyn y Sblash Fawr.
Gweithiodd y project gyda grwpiau cymunedol i fenywod lleol, gan gynnwys Age Cymru Gwent, Age Alive a Coffee & Laughs, a gafodd ei arwain gan ymarferydd proffesiynol cylchau hwla a’r syrcas lleol. Arweiniodd hyn at ‘fflachdorf’ o gylchau hwla ar fore Sadwrn 21 Gorffennaf 2018, lle cafwyd arddangosiad o sgiliau newydd y grŵp.
Roedd y project hwn, a gychwynnodd i hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol drwy gymryd rhan mewn gweithgaredd cynhwysol llawn hwyl, yn llwyddiant ysgubol gyda thros 120 o bobl yn cymryd rhan yn y Hoop Troupe drwy gydol oes y project. Yn dilyn rhaglen o weithdai wythnosol llwyddiannus yn Theatr Glan yr Afon, cymerodd dros 50 o bobl ran yn fflachdorf y Sblash Fawr, cyn gwahodd pobl o bob oedran a oedd yn eu gwylio yn y dorf i ymuno â’r hwyl.
Ar ôl cael gwybod am yr enwebiad, dywedodd Olivia Harris, Cynhyrchydd Creadigol, ‘Rydym wrth ein bodd bod y project Hoop Troupe wedi cael ei gynnwys ar y rhestr fer am wobr Celfyddydau a Busnes, i gydnabod gwaith ein cymuned gyda WPD, sy’n gefnogwyr y Sblash Fawr ers tro ac yn gyfaill Casnewydd Fyw. Llwyddodd y project i ddod â phobl hŷn ynghyd o bob rhan o’r ddinas, a dysgu sgil corfforol newydd iddynt mewn modd hwyl a chymdeithasol, gan greu cyfle cyffrous i berfformio hefyd. Ni fyddai projectau fel hyn yn bosibl heb gymorth WPD, ac rydym yn falch iawn bod y bartneriaeth hon wedi cael ei chydnabod.’
Dywedodd Karen Welch, Swyddog Cyfathrebu Corfforaethol WPD, ‘Rydym yn credu ei bod hi’n gyfrifoldeb ar sefydliadau mawr fel ein sefydliad ni i chwarae rhan lawn a rhagweithiol yn y cymunedau maent yn eu gwasanaethu. Rydym wrth ein boddau o gael gweithio mewn partneriaeth â Chasnewydd Fyw. Rydym yn ymrwymedig i gefnogi amrywiaeth o brojectau, yn enwedig y rhai sy’n ymwneud ag addysg, diogelwch a’r amgylchedd. Rydym yn falch iawn o gael ein henwebu, ac mae hi bob amser yn dda cael cydnabyddiaeth fel hyn.’
Bydd Glan yr Afon yn darganfod a ydyw wedi bod yn fuddugol mewn seremoni gwobrwyo yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, ddydd Iau 11 Gorffennaf.