What do these three things all have in common? They’re all now part of Big Splash 2018!



Come on an adventure through virtual reality with Thrill Laboratory’s VR Playground. In the latest ride experiment designed by aeronautical engineer Professor Brendan Walker, you’ll propel yourself through swirling metropolises, leap across skyscrapers and escape the deep abyss – all by playing on the swings!
Meanwhile, the world of the Strong Lady is filled with dazzling contrasts: muscle and grace, beauty and brute strength, lifting the hearts of the audience and… well… lifting the audiences themselves! A genuine strong woman, Betty Brawn will delight, impress and amaze.
Then, be spellbound by the mystical tale of Ned and the Whale, as told by Flossy and Boo. Encounter strange lands, soar the sky and help timid Ned find his courage, in this magical, musical journey of a boy and his whale.
More line-up announcements and a full timetable of when and where you can see all Big Splash 2018 acts will be coming soon. Watch this space!
………………………………………………………………………………………….
Beth sydd gan y tri pheth hyn yn gyffredin? Maen nhw bellach i gyd yn rhan o Sblash Mawr 2018!
Dewch ar antur trwy realiti rhithwir gyda Man Chwarae Realiti Rhithwir Thrill Laboratory. Yn yr arbrawf reid diweddaraf a ddyluniwyd gan y peiriannydd awyrennau, Yr Athro Brendan Walker, byddwch yn eich gwthio’ch hun drwy ddinasoedd enfawr sy’n chwyrlïo, neidio rhwng nendyrau a dianc rhag yr affwys dwfn – i gyd gan chwarae ar siglen!
Yn y cyfamser, mae byd y Fenyw Gref wedi’i lenwi gan wrthgyferbyniadau disglair: cyhyrau ac urddas, harddwch a bôn braich, yn codi calonnau’r gynulleidfa a…wel…codi’r cynulleidfaoedd eu hunain! A hithau’n fenyw gref go iawn, bydd Betty Brawn yn swyno, yn creu argraff ac yn eich syfrdanu.
Wedyn, cewch eich cyfareddu gan chwedl gyfriniol Ned a’r Morfil fel yr adroddir gan Flossy and Boo. Dewch o hyd i wledydd rhyfedd, esgynnwch i’r wybren a helpu Ned, sy’n swil, i fod yn ddewr ar daith swynol, gerddorol bachgen a’i forfil.
Bydd mwy o gyhoeddiadau am yr hyn fydd ar gael ac amserlen lawn o ble a phryd y gallwch weld holl berfformwyr Sblash Mawr 2018 maes o law. Gwyliwch amdano!